Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Datganiad hygyrchedd cofrestru awtomatig

Ymrestru awtomatig ffurflenni gwe diogel a safle cymorth.

Cyhoeddwyd: 21 May 2024

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 May 2024

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i adrannau o wefan y Rheoleiddiwr Pensiynau (TPR) a elwir yn ymrestru awtomatig, ffurflenni gwe diogel a safle cymorth, yn y parthau canlynol:

  • declaration.ae.tpr.gov.uk
  • letter-code.ae.tpr.gov.uk
  • nomination.ae.tpr.gov.uk
  • reenrolment-date.ae.tpr.gov.uk
  • review.ae.tpr.gov.uk
  • not-employer.ae.tpr.gov.uk
  • contact-us.ae.tpr.gov.uk
  • help.thepensionsregulator.gov.uk/faq

Mae’r gwefannau hyn yn cael eu rhedeg gan y Rheoleiddiwr Pensiynau. Ein dymuniad yw bod cynifer o bobl â phosibl yn gallu defnyddio’r gwefannau hyn. Mae ein safle datganiad o gydymffurfio ar ei newydd wedd wedi dangos gwelliannau sylweddol ar gyfer defnyddioldeb a hygyrchedd o’i gymharu â’r hen safle, gan leihau’r baich gwybyddol ar ddefnyddwyr ac osgoi problemau defnyddioldeb o bwys:

  • Mae cynlluniau tudalennau yn graddio’n gyson ac maen nhw’n symudol ac yn gyfeillgar i dabledi gan gynnwys:
    • chwyddo’r testun hyd at 400% heb iddo orlifo oddi ar y sgrin
    • llywio’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd, rheolwyr switsys neu feddalwedd adnabod lleferydd
    • defnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
  • Mae adnabod gwallau’n haws, ac adfer gwallau yn gynt ac yn symlach
  • Mae mewngofnodi wedi ei symleiddio’n sylweddol gan leihau’r baich ar y defnyddiwr, a lleihau’r risgiau o wallau gan y defnyddiwr
  • Gall defnyddwyr newid lliwiau, lefelau o gyferbynnedd a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau eu porwr neu ddyfais
  • Lle mae testun neu derminoleg yn anodd eu deall, darparwyd help cyd-destunol trwy ein nodwedd ‘Gofynnwch gwestiwn inni’

Trwy gydol 2023 a 2024 cynhaliwyd profion hygyrchedd gan ddefnyddio cymysgfa o brofi awtomatig a phrofi â llaw gan ddefnyddio technolegau cynorthwyol, a gynhaliwyd gan CIVIC. Roedd hyn yn cynnwys profi defnyddioldeb gyda nifer o gyfranogwyr anabl, a ddefnyddiodd eu dyfeisiau eu hunain a thechnolegau cynorthwyol gan gynnwys ffonau symudol a thabledi.

  • Cynhaliwyd sgan hygyrchedd awtomatig o’r safleoedd
  • Gwerthusiad hygyrchedd â llaw i lefel cod gan ddefnyddio arolygwyr cod porwr, dull sy’n adnabod problemau na ellir mo’u cipio gan offer awtomatig
  • Edrychon ni ar y rhaglen mewn ystod o borwyr:
    • Chrome, Firefox ac Edge ar Windows 10 ac 11
    • Safari ar iPad ac iPhone a Mac
  • Aseson ni dudalennau gan ddefnyddio’r dechnoleg gynorthwyol ganlynol:
    • NVDA (gyda Firefox a Chrome) darllenydd sgrin ar gyfer Windows
    • VoiceOver ar gyfer iPad ac iPhone (iOS) a macOS
    • Talkback ar gyfer Android
  • Gwirion ni gyfuniadau o liwiau gan ddefnyddio dadansoddwr cyferbynnedd lliwiau er mwyn pennu a oes digon o gyferbynnedd yn y cyflwyniad gweledol

Cynhaliwyd gwiriadau ar hap yn ailadroddol tra gwnaethpwyd trwsiadau er mwyn sicrhau bod problemau wedi’u datrys heb greu problemau ychwanegol ac mae adolygiad arbenigol wedi dod i’r casgliad bod y fersiwn newydd yn welliant defnyddioldeb clir, yn lleihau’r llwyth gwybyddol i ddefnyddwyr

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Daeth adolygiad arbenigol annibynnol i’r casgliad bod y safleoedd Ymrestru Awtomatig yn bodloni holl feini prawf hygyrchedd WCAG 2.1 AA.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os dewch o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi eu rhestru ar y dudalen hon neu rydych yn meddwl nad ydym yn ateb gofynion hygyrchedd, neu os ydych chi angen gwybodaeth am y gwefannau hyn mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd i’w ddarllen, recordiad sain neu braille, contact us.

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn eich ateb o fewn 10 diwrnod gwaith.

Gweithdrefn orfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae’r Rheoleiddiwr Pensiynau wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â’r Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r gwefannau hyn yn cydymffurfio’n llawn â’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 safon AA.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Sylwyd ar rhai mân faterion defnyddioldeb yn ystod y profi, ac er nad ydynt yn dechnegol yn ofynnol o dan WCAG, rydyn ni’n archwilio sut gellir eu gwella. Dyma nhw:

  • Gall maint y ffont a ddefnyddir mewn e-byst ymddangos yn rhy fach pan y’i gwelir fel testun cyfoethog
  • Nid yw botymau radio a ddatgelir yn amodol yn cael eu cyhoeddi i ddarllenwyr sgrin, mae hyn yn broblem hysbys yn y System Ddylunio GOV.UK
  • Efallai nid yw gosod y botwm ‘Gofynnwch gwestiwn inni’ bob tro yn dangos ei fod yn amlwg â pherthynas semantaidd â’r cynnwys sy’n cael ei ddangos

Beth rydyn ni’n ei wneud i wella hygyrchedd

I wella hygyrchedd yn barhaus, rydyn ni’n cynnal adolygiadau blynyddol a diweddariadau. Rydyn ni’n cipio mewnwelediadau profi o’n harsylliadau, adborth gan gyfranogwyr a llwyddiannau a methiannau tasgau.

Bydd profi aml yn helpu sicrhau bod ein hatebion yn gweithio i bob defnyddiwr a bydd gwefannau’n cael eu profi eto yn erbyn y safon AA WCAG 2.2 a drefnwyd ar gyfer mis Hydref 2024.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 14 Ebrill 2024.

Profwyd y gwefannau hyn trwy gydol 2023 a 2024 yn erbyn safon AA WCAG 2.1, gan CIVIC.