Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Beth rydyn ni’n ei wneud a phwy ydyn ni

Y Rheoleiddiwr Pensiynau (TPR) yw’r corff cyhoeddus sy’n diogelu pensiynau’r gweithle yn y DU.

Rydyn ni’n:

  • diogelu arian cynilwyr trwy wneud i gynlluniau a chyflogwyr gydymffurfio â’u dyletswyddau
  • gwella'r system trwy oruchwylio effeithiol y farchnad, yn dylanwadu ar ymarferion gwell
  • cefnogi arloesi ym mudd cynilwyr fel bod cynhyrchion a gwasanaethau newydd yn cyflenwi canlyniadau da

Beth dydyn ni ddim yn ei wneud

Rydyn ni’n gyfrifol am:

  • wneud yn siŵr bod cyflogwyr yn rhoi eu staff i mewn i gynllun pensiwn a thalu arian i mewn iddo (beth a elwir yn ‘ymrestru awtomatig’)
  • diogelu cynilion pobl mewn pensiynau’r gweithle
  • gwella'r ffordd mae cynlluniau pensiynau yn y gweithle’n cael eu rhedeg
  • lleihau’r risg o gynlluniau pensiynau yn cyrraedd pen eu taith yn y Gronfa Diogelu Pensiynau (PPF)
  • gwneud yn siŵr bod cyflogwyr yn cydbwyso anghenion eu cynllun pensiwn buddion â thyfu eu busnes

Ein blaenoriaethau

Yn ein Strategaeth Gorfforaethol rydyn ni wedi gosod pum blaenoriaeth lefel uchel, pob un â nod strategol, sy’n dynodi ein meysydd craidd o ganolbwyntio:

  1. Diogelwch: Mae arian cynilwyr yn ddiogel.
  2. Gwerth am arian: Mae cynilwyr yn cael gwerth da am eu harian.
  3. Craffu ar wneud penderfyniadau Mae penderfyniadau sy’n cael eu gwneud ar ran cynilwyr yn fuddiol iddynt.
  4. Cofleidio arloesi: Mae’r farchnad yn arloesi er mwyn ateb anghenion cynilwyr.
  5. Rheoleiddio hyderus ac effeithiol: Mae TPR yn reoleiddiwr eofn ac effeithiol.

Mae’r manylion y tu cefn i’n gwaith bob dydd wedi ei osod allan yn ein Cynllun Corfforaethol.

Er mwyn cyflenwi ein blaenoriaethau byddwn sy’n gosod disgwyliadau clir, adnabod peryglon yn fuan, gyrru cydymffurfio trwy oruchwylio a gorfodi, a gweithio ag eraill. Darllenwch fwy am ein hymagwedd ireoleiddio.

Pwy ydyn ni

Rydyn ni’n gorff cyhoeddus wedi ei noddi gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Rydyn ni wedi ein lleoli yn Brighton ac mae gennym tua 900 o staff.

Rydyn ni’n gweithio’n glòs â’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol sy’n rheoleiddio cynlluniau pensiynau personol. Rydyn ni hefyd yn gweithio’n glòs â chyrff cyhoeddus eraill gan gynnwys:

Mae aelodau o’n bwrdd yn goruchwylio’r hyn a wnawn a gwneud yn siŵr bod TPR yn cael ei redeg yn dda.

Rydyn ni’n aelod o’r Grŵp Gweithredu ar Sgamiau Pensiynau, tasglu amlasiantaeth sy’n mynd i’r afael a sgamiau pensiynau a thwyll.

Gyda Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol, yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, y Cynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol a’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau, rydyn ni wedi cynhyrchu’r Fframwaith Goblygiadau Ehangach. Mae’r Fframwaith yn gytundeb ffurfiol ar gyfer gweithio’n agosach ar faterion ariannol.

Beth dydyn ni ddim yn ei wneud

Dydyn ni ddim yn gyfrifol am:

  • delio ag ymholiadau neu gwynion gan aelodau cynllun am fuddion eu pensiwn
  • darparu help i aelodau cynllun ar sut i gael mynediad at eu cynilion pensiwn
  • canfod pensiynau coll
  • ymdrin ag ymholiadau am Bensiwn y Wladwriaeth neu dreth

Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau’n darparu Helpwr Arian a all roi cymorth gyda materion fel y rhain.

Gweledigaeth a gwerthoedd

Ein gweledigaeth yw bod yn rheoleiddiwr cadarn, hyblyg, teg ac effeithlon. Trwy hyn rydyn ni’n ceisio ennill parch cyflogwyr, ymddiriedolwyr a rhanddeiliaid eraill.

Ar y cyd â’n partneriaid, byddwn yn gyrru safonau ymddiriedolaeth i fyny a gwella dealltwriaeth cynilwyr o’u sefyllfa er mwyn creu gwell canlyniadau yn eu bywydau yn ddiweddarach.

Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud TPR yn le gwych i weithio ac yn gwneud y gorau y gallwn i gefnogi ein pobl i gyrraedd eu llawn botensial.

Rydyn ni’n credu bod rhai gwerthoedd yn ganolog er mwyn cyflenwi’r weledigaeth hon. Mae’r rhain yn cynnwys bod:

  • wedi ymrwymo i gyflawni’r nod o ganlyniadau da i gynilwyr yn y gweithle
  • yn eofn ac yn ddiduedd wrth wneud ein penderfyniadau
  • yn effro ac yn ymateb i risgiau a chyfleoedd sy’n ymddangos
  • yn gefnogol o’n pobl
  • yn unedig fel un tîm