Rhaid i chi gwblhau a chyflwyno eich ailddatganiad o gydymffurfiad o fewn pum mis i drydydd pen-blwydd eich dyddiad ailgofrestru blaenorol. Ni fydd eich dyddiad terfyn ar gyfer ail-ddatgan ddim yn newid os ydych chi'n dewis dyddiad arall ar gyfer asesu'ch staff.
Mae'r ail-ddatganiad cydymffurfio yn ffurflen ar-lein ichi roi gwybod inni sut y bu ichi fodloni'ch dyletswyddau cyfreithiol.
Hyd yn oed oes os rhywun arall (aelod o staff neu gynghorydd busnes) wedi eich helpu gyda'ch dyletswyddau, ac o bosib yn cwblhau'r ail-ddatganiad ichi, eich dyletswydd gyfreithiol chi fel y cyflogwr ydy gofalu caiff yr ail-ddatganiad ei gwblhau mewn pryd a bod yr wybodaeth yn gywir. Os nad ydych chi'n cydymffurfio gyda hyn, mae'n bosib y cewch chi ddirwyon.
Os oes gennych chi'r holl wybodaeth berthnasol i law, gall gymryd cyn lleied â 15 munud ichi gwblhau eich ail-ddatganiad.
Unwaith ichi gwblhau eich ail-ddatganiad cydymffurfio fe fydd gennych chi ddyletswyddau parhaus eraill ar ran eich staff fydd angen eu cwblhau.
Dechrau eich ail-ddatganiad rŵan
Er bod gennych bum mis i gwblhau eich ailddatganiad, rydym yn argymell eich bod yn gwneud hyn cyn gynted â phosibl ar ôl trydydd pen-blwydd eich dyddiad ailgofrestru blaenorol. Bydd angen eich cyfeirnod PAYE arnoch a naill ai eich cod llythyr neu gyfeirnod eich swyddfa gyfrifon i gychwyn arni.