Pob tair blynedd, bydd angen ichi ail-ymrestru staff penodol ar eich cynllun pensiwn cofrestru awtomatig.
Dyma'r staff wnaeth ddadgofrestru o'ch pensiwn mwy na 12 mis cyn eich dyddiad ail-ymrestru neu staff sy'n dal yn rhan o'ch cynllun ond yn talu llai na'r lleiafswm cyfraniadau.
Mae rhai camau y bydd gofyn ichi eu cyflawni er mwyn bodloni eich dyletswyddau ail-ymrestru.
Yn gyntaf, fe fydd angen ichi ddewis eich dyddiad ail-ymrestru o gyfnod penodol o chwe mis. Bydd y cyfnod yn dechrau tri mis cyn y drydedd flynedd ers eich dyddiad gweithredu cofrestru awtomatig cyntaf ac yn dod i ben tri mis ar ôl y dyddiad hwnnw.
Ar eich dyddiad ail-ymrestru, bydd angen ichi benderfynu pa aelodau o staff y mae ail-ymrestru awtomatig yn berthnasol iddyn nhw a'u hasesu i weld ydyn nhw'n bodloni'r meini prawf ynghylch oedran ac enillion er mwyn eu hail-ymrestru. Yna bydd angen ichi eu hail-ymrestru ar eich cynllun pensiwn. Hefyd bydd angen ichi gynyddu'r cyfraniadau ar gyfer unrhyw staff sy'n talu llai na'r lleiafswm cyfraniadau.
Unwaith ichi wneud hyn, bydd angen ichi ysgrifennu ar yr aelodau hyn o staff er mwyn rhoi gwybod beth sy'n digwydd.
Yn olaf, mae'n rhaid ichi gwblhau ailddatganiad cydymffurfio i roi gwybod inni sut y bu ichi fodloni eich dyletswyddau ail-ymrestru, hyd yn oed os nad oedd gennych chi unrhyw aelod o staff i'w hail-ymrestru ar eich cynllun ai pheidio.
Defnyddiwch ein hadnodd ar-lein. Ewch i wefan y Rheoleiddiwr Pensiynau.