Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Cwblhau eich Ail-ddatganiad Cydymffurfio

Bydd yn rhaid ichi wneud hyn ymhen pum mis ers iddi fod yn dair blynedd ers eich dyddiad gosod ymrestru awtomatig.

Mae hon yn ffurflen ar-lein er mwyn ichi roi gwybod inni sut y bu ichi fodloni eich gofynion cyfreithiol.

Mae'n rhaid ichi gwblhau a chyflwyno eich ail-ddatganiad cydymffurfio ymhen pum mis ers iddi fod yn dair blynedd ers eich dyddiad gosod ymrestru awtomatig. Ni fydd eich dyddiad terfyn ar gyfer ail-ddatgan ddim yn newid yn unol â'ch dyddiad ail-ymrestru y bu ichi ei ddewis.

Os nad oes gennych chi staff i'w hail-gofrestru ar eich cynllun pensiwn, bydd dal angen ichi gwblhau eich ail-ddatganiad cydymffurfio. Mae'n rhaid ichi wneud hyn ymhen pum mis calendr wedi iddi fod yn dair blynedd ers eich dyddiad gweithredu.

Hyd yn oed os oes rhywun arall (aelod o staff, neu gynghorydd busnes) wedi eich helpu gyda'ch dyletswyddau ac efallai'n cwblhau'r ail-ddatganiad ichi, eich dyletswydd gyfreithiol chi fel cyflogwr ydy gofalu fod yr ail-ddatganiad wedi ei chwblhau ar amser a bod yr holl wybodaeth yn gywir. Os na wnewch chi hyn, mae'n bosib y cewch chi ddirwy.

Os oes gennych chi'r holl wybodaeth berthnasol wrthlaw, gall gymryd cyn lleied â 15 munud i gwblhau eich ail-ddatganiad.

Unwaith ichi gwblhau eich ail-ddatganiad cydymffurfio fe fydd gennych chi ddyletswyddau parhaus eraill ar ran eich staff fydd angen eu cwblhau.

Dechrau eich ail-ddatganiad ar unwaith

Er bod gennych chi bum mis i wneud hyn, rydym yn eich argymell i gwblhau'ch ail-ddatganiad cyn gynted â phosib wedi eich dyddiad ail-ymrestru.

Dechrau arni