Pwyntiau allweddol
- Os ydych chi'n ystyried cau cynllun pensiwn naill ai i aelodau newydd neu i groniadau’r dyfodol, dylech drafod hyn gyda’r ymddiriedolwyr neu reolwyr eich cynllun pensiwn i ddeall unrhyw newidiadau allai fod yn ofynnol i weithred yr ymddiriedolaeth a rheolau’r cynllun i weithredu’r newid hwn ac, os yn berthnasol, gynnal ymgynghoriad ag aelodau’r cynllun a effeithir.
- Os ydych chi’n dirwyn cynllun budd diffiniedig (DB) i ben, mae angen i chi ddeall beth yw’r goblygiadau ac a fydd dyled dan adran 75 y Ddeddf Pensiynau 1995 (dyled adran 75) yn daladwy.
Cau cynllun i aelodau newydd neu groniadau'r dyfodol
Os ydych chi’n ystyried cau eich cynllun i aelodau newydd, neu i groniadau pensiwn pellach, p’un a yw'n gynllun DB neu gyfraniad diffiniedig (DC), dylid trafod y rhain gyda’r ymddiriedolwyr neu reolwyr eich cynllun pensiwn.
Efallai y bydd gweithred ymddiriedolaeth y cynllun angen ei addasu i weithredu’r newid hwn ac, yn ddibynnol ar faint o gyflogeion sydd gennych chi, fel y cyflogwr efallai y bydd hefyd angen i chi ymgynghori â chyflogeion a effeithir cyn gwneud y newidiadau hyn gan y’u hystyrir i fod yn ‘newidiadau a restrir’ dan y rheoliadau perthnasol.
Sefydlir dyletswydd y cyflogwr i ymgynghori yn adrannau 259-261 y Ddeddf Pensiynau 2004, y Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol a Phersonol (Ymgynghoriad gan Gyflogwyr ac Addasiad Amrywiol) fel y’i diwygiwyd, a’r Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Ymgynghoriad gan Gyflogwyr) (Addasiad ar gyfer Cynlluniau Amlgyflogwr) 2006.
Am wybodaeth fanylach ynghylch y rheoliadau a chydymffurfiad â nhw, cyfeiriwch at ganllaw yr Adran Waith a Phensiynau (DWP) ar wefan yr Archifau Cenedlaethol.
Dirwyn cynllun i ben
Gall dirwyn cynllun pensiwn i ben fod yn broses gymhleth sy’n amrywio o gynllun i gynllun.
Os ydych yn ystyried dirwyn y cynllun pensiwn i ben, dylech drafod hyn gyda’r ymddiriedolwyr neu reolwyr y cynllun, sy’n gyfrifol am hysbysu’r Rheoleiddiwr Pensiynau o’r broses ddirwyn i ben a sicrhau yr ymgymerir â hi mewn modd trefnus.
I gael rhagor o wybodaeth gweler ein cyfarwyddyd rheoleiddiol dirwyn i ben (yn Saesneg unig).
Yn achos cynllun pensiwn aml-gyflogwr, gallai gweithred ymddiriedolaeth a rheolau cynllun ddarparu ar gyfer dirwyn i ben yn rhannol pan yw cyflogwr yn gadael y cynllun, acefallai bydd angen cyngor cyfreithiol i benderfynu’r effaith o wneud hyn, yn arbennig os oes gennych gynllun DB.
Ar gyfer cynllun DB, un o’r canlyniadau o gychwyn dirwyn i ben yw y gallai dyled adran 75 ddod yn ddyledus gan y cyflogwr neu gyflogwyr os oes gan y cynllun ddiffyg. Fel arfer mae dyled adran 75 yn golygu’r swm y bydd yn ei gostio’r cynllun i brynu blwydd-daliadau i sicrhau buddion aelodau’n llawn. Wedi i gynllun ddechrau dirwyn i ben, fel arfer mae’n rhaid i’r ymddiriedolwyr sicrhau y cyfrifir dyledion adran 75 a cheisio casglu’r dyledion hynny.