Trosolwg byr o rôl y Tribiwnlys a’r Llys Sirol
Pan gyhoeddir hysbysiad cosb mae gan dderbynnydd yr hysbysiad cosb yr hawl i ofyn am adolygiad mewnol. Os cynhelir yr adolygiad ond nid yw’n llwyddiannus mae hawl i wneud apêl i’r Tribiwnlys. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth ar ein tudalen we gwneud cais am adolygiad.
O dan ein deddfwriaeth, mae’r hysbysiadau cosb eu hunain yn cario’r un statws â Gorchymyn Llys. Mae hyn yn golygu nad oes angen i ni wneud hawliad yn y Llys Sirol am daliad o symiau’r gosb fel pe baent yn rhan o ddyled a ddadleuwyd. Os yw’r gosb yn parhau heb ei thalu yna byddwn yn gwneud cais i’r Llys Sirol am Orchymyn i Adennill Dyfarndal (y Gorchymyn). Unwaith y cyhoeddir y Gorchymyn bydd y Llys Sirol hefyd yn trefnu Dyfarniad Llys Sirol i’w gofrestru yn erbyn derbynnydd y Gorchymyn.
Caniateir y cais am Orchymyn heb rybuddio’r person o’r cais a heb yr angen am wrandawiad. Mae hyn yn golygu ei fod yn gyfreithiol ac yn gywir eich bod yn cael eich cyflwyno â’r Gorchymyn heb i ni neu’r Llys ddweud wrthych fod y cais wedi ei wneud a heb wrandawiad.
Awdurdodaeth y Tribiwnlys
Awdurdodaeth y Tribiwnlys yw ystyried unrhyw beth sy’n gysylltiedig â chyhoedd hysbysiad cosb a swm y gosb. Mae materion sy’n dod o fewn awdurdodaeth y Tribiwnlys yn cynnwys (ond nid ydynt wedi eu cyfyngu i)
- Beidio â derbyn yr hysbysiad cydymffurfio/hysbysiad o gyfraniadau heb eu talu cyn cyhoeddi’r hysbysiad cosb.
- Peidio â derbyn yr hysbysiad cosb.
- A oes gennych chi esgus rhesymol pam na fu i chi gydymffurfio â’r hysbysiad cydymffurfio/hysbysiad o gyfraniadau heb eu talu.
- A gyhoeddwyd hysbysiadau i chi; ac
- Mae swm yr hysbysiad cosb yn anghywir.
Rydym o’r farn, ac mae’r Llys Sirol wedi cytuno’n gyson, bod unrhyw beth sy’n gysylltiedig â chyhoeddi hysbysiadau a swm y gosb yn rhan o awdurdodaeth unigryw’r Tribiwnlys. Mae hyn yn golygu nad oes gan y Llys Sirol y pŵer hefyd i edrych ar faterion o’r fath.
Awdurdodaeth y Llys Sirol
Rydym hefyd o’r farn, ac, eto, mae’r Llys Sirol wedi cytuno’n gyson, mai rhychwant awdurdodaeth y Llys Sirol yw sicrhau ein bod ni wedi defnyddio’r Gorchymyn i Adennill Dyfarndal yn gywir. Mae hyn drwy ein pwerau statudol o dan a. 42 Deddf Pensiynau 2008 sy’n darparu llwybr adennill o dan Reol 70.5 y Rheolau Trefniadaeth Sifil. Nid ydym yn adennill symiau cosb trwy broses hawliadau Rhan 7 gan fod deddfwriaeth yn darparu bod ein hysbysiadau cosb yn cael eu trin fel Gorchmynion y Llys Sirol. Mae rôl y Llys Sirol yn weinyddol er mwyn caniatáu adennill cosbau yn unig.
Mae hyn yn golygu na all y Llys Sirol edrych ar unrhyw ddadleuon o gwmpas cyhoeddi hysbysiadau na swm y gosb gan fod y rhain yn dod o fewn awdurdodaeth y Tribiwnlys. Os ydym wedi sicrhau Gorchymyn ac mae’ch cais am osod o’r naill du dim ond yn cynnwys rhesymau sydd i’r Tribiwnlys eu hystyried rydym yn debygol o ofyn i’r Llys wrthod y cais. Yn yr un modd, os yw eich rhesymau am osod o’r naill du sy’n cynnwys datganiadau:
- nad ydych wedi derbyn ein cais am Orchymyn
- nad ydych wedi cael y cyfle i amddiffyn yn erbyn y cais; neu
- nad ydych wedi cael eich hysbysu o wrandawiad (neu wedi cael y cyfle i fynychu gwrandawiad).
byddwn yn amddiffyn yn erbyn y rhesymau hyn ar y sail nad oes gwall cyfreithiol gan y caniateir i’r Llys gyhoeddi Gorchymyn heb eich rhybuddio o’r cais a heb wrandawiad.
Os ydych yn gwneud cais lle nad oes sail sydd o fewn awdurdodaeth y Llys, ac mae angen i ni fynychu’r Llys byddwn fel rheol yn ceisio adennill y costau o amddiffyn y cais i’r graddau mwyaf a ganiateir gan y gyfraith. Yn dibynnu ar amgylchiadau’r cais, gallwn hefyd geisio adennill costau hyd yn oed os nad oes rhaid i ni fynychu’r Llys. Mae’n bwysig sicrhau fod unrhyw hawliad rydych yn ei wneud i’r Llys neu Dribiwnlys cywir neu fel arall rydych mewn perygl o gostau’n cael eu dyfarnu yn eich erbyn a fydd yn cael eu hychwanegu at y cyfanswm symiau sy’n ddyledus.
Nodwch na allwn eich cynghori ar eich llwybr i’w gymryd ac ni allwn ddarparu unrhyw wybodaeth bellach ar awdurdodaeth heblaw am yr un a ddarparwyd ar y dudalen we hon. Os ydych yn ansicr, dylech geisio eich cyngor cyfreithiol annibynnol eich hun.