Mae ein Cynllun Iaith Gymraeg yn cwmpasu'r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu i'r cyhoedd yng Nghymru.
Diweddarwyd: Tachwedd 2020
Cyflwyniad
Dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 roedd yn rhaid i bob corff cyhoeddus sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru baratoi cynllun yn nodi sut y bydd yn darparu'r gwasanaethau hynny yn Gymraeg. Gydag ymddeddfiad Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, yn raddol bydd safonau yn cymryd lle’r cynlluniau hyn.
Dyma’n cynllun ni.
Mae’n disgrifio sut y byddwn yn gweithredu’r egwyddor a sefydlwyd gan Ddeddf yr Iaith Gymraeg (ac a atgyfnerthwyd dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011), sef y dylai’r Gymraeg a’r Saesneg gael eu trin ar y sail eu bod yn gyfartal wrth gynnal busnesau cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru, ni fydd y Gymraeg yn cael ei thrin yn ddim llai ffafriol na Saesneg. Mae’r cynllun yn cwmpasu’r gwasanaethau a gynigiwn i’r cyhoedd yng Nghymru.
Yn y cynllun hwn, golyga’r term cyhoeddus unigolion, pobl gyfreithiol a chyrff corfforaethol. Mae’n cynnwys y cyhoedd i gyd, neu ran o’r cyhoedd, yn ogystal ag aelodau unigol o’r cyhoedd. Mae’r term yn cynnwys sefydliadau gwirfoddol ac elusennau. Yn ogystal, mae cyfarwyddwyr ac eraill sy’n cynrychioli cwmnïau cyfyngedig ymhlyg yn ystyr y term ‘cyhoedd’. Fodd bynnag, nid yw’n cynnwys personau sy’n gweithredu fel cynrychiolwyr o’r Goron, y Llywodraeth neu’r Wladwriaeth. O ganlyniad, nid yw personau sy’n cyflawni rôl swyddogol o natur gyhoeddus, hyd yn oed os ydynt yn bersonau cyfreithiol, yn gynwysedig o fewn ystyr y gair cyhoeddus pan ydynt yn cyflawni’r swyddogaethau swyddogol hynny.
Yn wreiddiol roedd ein prif ohebiaeth wedi ei dargedu at arbenigwyr y diwydiant pensiynau sy’n gyfrifol am weinyddu cynlluniau pensiwn yn y gweithle, ac felly roedd y tu allan i’r diffiniad ehangach o’r cyhoedd yn y cynllun hwn. Fodd bynnag, ers ymddeddfiad y Ddeddf Pensiynau 2008 a chyflwyniad cofrestru awtomatig, bydd ein cyswllt â’r cyhoedd yn cynyddu.
Mae gwybodaeth bellach am gwmpas a diben cynlluniau iaith Gymraeg i’w gweld ar wefan Comisiynydd y Gymraeg.
Paratowyd y cynllun hwn yn wreiddiol o dan Adrannau 12 i 14 o’r Ddeddf - ac yn unol â’r canllawiau a gyhoeddwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg o dan Adran 9 o’r Ddeddf. Daeth y ddyletswydd i rym yn ffurfiol ar 13 Hydref 2008. Disodlwyd Bwrdd yr Iaith Gymraeg gan Gomisiynydd y Gymraeg yn 2012. Derbyniodd y cynllun hwn gymeradwyaeth Comisiynydd y Gymraeg ar 3 Medi 2013.
Cefndir y sefydliad
Y Rheoleiddiwr Pensiynau yw rheoleiddiwr y Deyrnas Unedig ar gyfer cynlluniau pensiwn yn y gwaith. Mae Deddf Pensiynau 2004 a Phensiynau 2008 yn rhoi set o amcanion penodol i'r Rheoleiddiwr Pensiynau.
Er mwyn bodloni’r amcanion hyn, rydym yn canolbwyntio ein hadnoddau ar gynlluniau ble rydym yn nodi’r risg fwyaf i ddiogelwch aelodau. Byddwn hefyd yn hyrwyddo safonau uchel gweinyddiad cynllun, ac yn gweithio i sicrhau fod gan y rhai sy’n ymwneud â rhedeg cynlluniau pensiwn y sgiliau a gwybodaeth ofynnol.
Ein prif gynulleidfaoedd yw’r rhai sy’n ymwneud â rhedeg cynlluniau pensiwn gweithle. Mae’r rhain yn cynnwys ymddiriedolwyr cynlluniau pensiwn a’u cynghorwyr preifat a gweinyddwyr cynllun. Nid yw prif ffocws ein gwaith yn cynnwys y cyhoedd yn gyffredinol ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Cymru. Fodd bynnag, dan Ddeddf Pensiynau 2008 mae ein cynulleidfa newydd yn cynnwys cyflogwyr yn y Deyrnas Unedig. Am ragor o wybodaeth am ein gwaith, ewch amdanom ni.
Mae swyddfeydd y Rheoleiddiwr Pensiynau wedi'u lleoli yn Brighton, East Sussex. Gweler gysylltu â ni am ein manylion cyswllt llawn.
Cynllunio a darparu gwasanaeth
Polisïau, deddfwriaeth, gwasanaethau a mentrau
Bydd ein polisïau, ein mentrau newydd a’n gwasanaethau yn gyson â’r cynllun hwn. Byddant yn cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg a byddwn yn sicrhau, pan yn bosib, eu bod yn helpu’r cyhoedd yng Nghymru i ddefnyddio’r Gymraeg fel rhan o’u bywyd bob dydd.
Pa bryd bynnag y bo’n berthnasol, bydd ein dogfennau ymgynghoriad yn trafod y berthynas rhwng yr iaith Gymraeg a’r polisïau, mentrau newydd a’n gwasanaethau sydd o dan ddatblygiad.
Pan fyddwn yn cyfrannu i ddatblygu neu gyflawni polisïau, mentrau, gwasanaethau neu ddeddfwriaeth newydd a arweinir gan gyrff eraill, byddwn yn ei wneud mewn ffordd sy’n gyson â’r cynllun hwn.
Cyflwyno gwasanaethau
Byddwn yn sicrhau fod gwasanaethau perthnasol ar gael yn Gymraeg.
Safonau ansawdd
Bydd gwasanaethau a ddarperir yn Gymraeg ac yn Saesneg o ansawdd cyfartal a chânt eu darparu o fewn yr un amserlen lle’n ymarferol.
Delio â’r cyhoedd sy’n siarad Cymraeg
Gohebiaeth
Bydd ein harfer safonol fel a ganlyn:
Pan fydd rhywun yn ysgrifennu atom yn Gymraeg byddwn yn anfon ateb yn Gymraeg (os bydd angen ateb). Ein hamser targed ar gyfer ymateb fydd 10 niwrnod gwaith ar gyfer gohebiaeth gyffredinol a 15 niwrnod gwaith ar gyfer ymholiadau technegol.
Pan fyddwn yn cychwyn ar ohebiaeth gydag unigolyn, grŵp neu gorff, byddwn yn gwneud hynny yn Gymraeg pan fyddwn yn gwybod ei fod yn well ganddynt gyfathrebu yn Gymraeg. Wrth gychwyn gohebu gydag unigolyn, grŵp neu sefydliad gyda chod post Cymreig, a ble nad ydynt yn gwybod beth yw'r dewis, byddwn yn cychwyn gohebu yn ddwyieithog.
Os bydd rhaid cyhoeddi fersiwn Cymraeg a Saesneg o unrhyw ohebiaeth ar wahân, ein harfer yn gyffredinol fydd sicrhau bod y ddau fersiwn ar gael ar yr un pryd.
Bydd deunydd fydd wedi’i amgáu gyda llythyrau dwyieithog yn ddwyieithog, pan fydd ar gael.
Bydd deunydd fydd wedi’i amgáu gyda llythyrau Cymraeg yn Gymraeg neu’n ddwyieithog, pan fydd ar gael.
Bydd unrhyw ohebiaeth ar bapur, p’un ai yn Saesneg ac/neu’n Gymraeg, wedi ei lofnodi.
Cyfathrebu ar y ffôn
Oherwydd ein lleoliad, ni fyddai’n ymarferol i ni gynnal sgyrsiau ffôn yn Gymraeg. Fodd bynnag, os byddwn yn gosod llinellau cymorth, neu gyfleusterau tebyg, i roi gwybodaeth, gwasanaeth neu gymorth i’r cyhoedd yng Nghymru, byddwn yn darparu gwasanaeth Cymraeg. Hysbysebir hyn ochr yn ochr â’r gwasanaeth iaith Saesneg. Bydd y ddau wasanaeth yn rhannu rhif ffôn.
Ein hwyneb cyhoeddus
Cyhoeddiadau
Byddwn yn cyhoeddi deunydd ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru yn ddwyieithog, yn amodol ar y system sgorio a ddarparwyd gan y Comisiynydd, a bydd y fersiynau Cymraeg a Saesneg gyda’i gilydd mewn un ddogfen.
Os oes rhaid cyhoeddi’r fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân (er enghraifft, os bydd un ddogfen yn rhy hir neu’n rhy swmpus), bydd y ddau fersiwn yn gyfartal o ran maint ac ansawdd – a’n harfer safonol fydd sicrhau bod y ddau fersiwn ar gael ar yr un pryd a’r un mor hygyrch. Bydd pob fersiwn yn nodi’n glir bod y deunydd ar gael yn yr iaith arall.
Os na fydd y dogfennau ar gael am ddim, ni fydd pris dogfen ddwyieithog yn fwy na phris cyhoeddiad un iaith – a bydd pris dogfennau Cymraeg a Saesneg ar wahân yr un peth.
Bydd yr uchod yn berthnasol hefyd i ddeunydd sydd ar gael yn electronig ar ein gwefan, ar CD Rom neu fel arall.
Gwefannau
Bydd ein gwefan yn cynnwys tudalennau yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Byddwn yn darparu fersiynau Cymraeg o’r tudalennau rhyngweithiol ar ein gwefan, yn amodol i’r system sgorio.
Wrth ddylunio gwefannau newydd, nau ailddatblygu’n gwefannau presennol, fe fyddwn yn ystyried canllaw Comisiynydd y Gymraeg, ‘Technoleg, gwefannau a
meddalwedd: Ystyried y Gymraeg’.
Pryd bynnag y rhoddwn gyhoeddiadau Saesneg ar ein gwefannau, caiff y fersiynau Cymraeg eu rhoi arnynt ar yr un pryd, os ydynt ar gael.
Ffurflenni a deunydd egluro cysylltiedig
Byddwn am sicrhau bod pob ffurflen a ddefnyddir gan y cyhoedd yng Nghymru yn gyfan gwbl ddwyieithog, yn ddarostyngedig i’r system sgorio, gyda’r fersiynau Cymraeg a Saesneg gyda’i gilydd mewn un ddogfen, ble fo’n ymarferol. Bydd hyn yn cynnwys ffurflenni rhyngweithiol a gyhoeddir ar ein gwefannau. Bydd deunydd esboniadol cysylltiedig yn gyfan gwbl ddwyieithog, yn ddarostyngedig i’r system sgorio ar gyfer cyhoeddiadau.
Os oes rhaid cyhoeddi’r fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân (er enghraifft, os byddai un ddogfen yn rhy hir neu’n rhy swmpus), bydd y ddau fersiwn yn gyfartal o ran maint ac ansawdd – a’n harfer yn gyffredinol fydd sicrhau bod y ddau fersiwn ar gael ar yr un pryd ac y byddant yr un mor hygyrch. Bydd pob fersiwn yn nodi’n glir bod y deunydd ar gael yn yr iaith arall.
Pan fyddwn ni yn rhoi gwybodaeth ar fersiynau Cymraeg ffurflenni a anfonir at y cyhoedd, byddwn yn gwneud hynny yn Gymraeg. Pan fyddwn ni yn mewnbynnu gwybodaeth ar ffurflenni dwyieithog a anfonir at y cyhoedd, byddwn yn gwneud hynny’n ddwyieithog oni bai ein bod yn gwybod y byddai’n well gan y derbynnydd gael y wybodaeth yn Gymraeg neu’n Saesneg yn unig.
Pan fydd cyrff eraill yn dosbarthu ffurflenni ar ein rhan, byddwn yn sicrhau y gwnânt hynny yn unol â’r uchod.
Hysbysiadau swyddogol, hysbysiadau cyhoeddus a hysbysiadau recriwtio staff
Bydd unrhyw hysbysiadau swyddogol, hysbysiadau cyhoeddus a hysbysiadau recriwtio staff a roir mewn papurau newydd Saesneg (neu gyfryngau tebyg) a gaiff eu dosbarthu’n bennaf neu'n gyfan gwbl yng Nghymru yn ddwyieithog, neu byddant yn ymddangos yn fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân. Bydd hysbysiadau mewn cyhoeddiadau Cymraeg yn ymddangos yn Gymraeg.
Bydd y fersiynau Cymraeg a Saesneg yn gyfartal o ran fformat, maint, ansawdd ac amlygrwydd – un ai mewn un fersiwn dwyieithog neu ar wahân yn Gymraeg a Saesneg.
Yn y cyfryngau Saesneg, gellir hysbysebu swyddi y mae’r Gymraeg yn hanfodol ar eu cyfer yn Gymraeg, gyda disgrifiad byr yn Saesneg.
Gellir cyhoeddi yn Saesneg hysbysiadau recriwtio sy’n ymddangos mewn cyfnodolion (a chyhoeddiadau eraill) Saesneg a ddosberthir ledled y Deyrnas Unedig, oni bai ei bod yn hanfodol i ddeiliad y swydd siarad Cymraeg, ac os hynny, gall yr hysbyseb fod yn gwbl ddwyieithog, neu yn Gymraeg gydag eglurhad cryno yn Saesneg. Bydd unrhyw hysbysiadau swyddogol, hysbysiadau cyhoeddus neu hysbysiadau recriwtio staff a roddir mewn mannau eraill yn ddwyieithog.
Datganiadau i’r wasg a chysylltiadau â'r cyfryngau
Cyhoeddir datganiadau i’r wasg a’r cyfryngau darlledu yng Nghymru yn Gymraeg pam fydd terfynau amser yn caniatáu hynny.
Ble rydym wedi cyhoeddi datganiad i’r wasg yn Gymraeg i’n cyfryngau iaith Gymraeg a byddwn hefyd yn ei gyhoeddi yn Gymraeg ar ein gwefan.
Gweithredu’r Cynllun
Staffio
Nid oes gennym yr un swyddfa yng Nghymru. Er hynny, byddwn yn chwilio am wybodaeth am sgiliau Cymraeg ymgeiswyr am swyddi a staff presennol. Trafodir hyn o dan Recriwtio, isod.
Recriwtio
Ar gyfer unrhyw swyddi sy’n mynnu cyswllt eang a rheolaidd â’r cyhoedd yng Nghymru, byddwn yn ystyried a ddylai rhuglder yn y Gymraeg fod yn fedr i’w ddymuno neu’n un hanfodol – ac fe nodir hyn yn y cymwysterau angenrheidiol a’r hysbysebion ar gyfer swyddi.
Technoleg gwybodaeth a chyfathrebu
Bydd yr angen i ddarparu gwybodaeth a gwasanaethau yn Gymraeg, yn unol â’r cynllun hwn, yn cael ei adlewyrchu wrth i ni ddatblygu, dylunio a phrynu cynnyrch a gwasanaethau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu.
Byddwn am addasu ein hymagwedd bresennol er mwyn gallu darparu gwybodaeth a gwasanaethau yn Gymraeg – a gweithredu yn unol â’r cynllun hwn.
Wrth i ni ddatblygu neu brynu systemau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu byddwn yn rhoi ystyriaeth lawn i ganllaw Comisiynydd y Gymraeg, ‘Technoleg, gwefannau a meddalwedd: Ystyried y Gymraeg’.
Trefniadau mewnol
Mae gan y mesurau yn y cynllun hwn awdurdod, cefnogaeth a chymeradwyaeth lawn ein sefydliad.
Bydd gweithredu yn unol â’r cynllun hwn yn fater o gydymffurfiad. Mae gan reolwyr y cyfrifoldeb o weithredu’r agweddau hynny ar y cynllun sy’n berthnasol i’w gwaith.
Rydym wedi penodi uwch aelod o staff i gydlynu’r gwaith sydd ei angen i ddarparu, monitro ac adolygu’r cynllun hwn.
Rydym wedi paratoi cynllun gweithredu, ac yn ei ddiweddaru’n barhaus, i ddangos sut ydym yn sicrhau ein bod yn gweithredu’n unol â’r Cynllun. Mae’r cynllun gweithredu cynnwys targedau, dyddiadau cau ac adroddiad ar gynnydd yn erbyn pob targed. Prif nod yr adroddiad yw sicrhau ein bod yn cyflawni’r ymrwymiadau a amlinellir yn y cynllun hwn cyn gynted â phosibl. Cyflwynir yr adroddiad i’r Comisiynydd fel y cyfarwyddwyd ac fe gyhoeddir eu hadroddiad ar eu gwefan (www.comisiynyddygymraeg.org).
Mae’r cynllun yn cael ei hyrwyddo i’n staff trwy’n mewnrwyd a thrwy’r rhaglen cyflwyno i staff, ac i’r cyhoedd yng Nghymru. Mae’n cael ei gyhoeddi ar ein gwefan. Mae ein staff wedi eu briffio a hyfforddi i godi ymwybyddiaeth o’r cynllun, gan esbonio sut y bydd yn effeithio ar eu gwaith beunyddiol.
Byddwn yn sicrhau mai dim ond cyfieithwyr cymwys y byddwn yn eu defnyddio i gyfieithu deunydd electronig a phapur – ac ar gyfer cyfieithu ar y pryd. Byddwn yn disgwyl i’r cyfieithwyr hynny fod yn aelodau o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru neu sefydliad tebyg.
Byddwn yn ymgymryd ag unrhyw fath o gyswllt â’r cyhoedd yng Nghymru, sydd heb gael ei ddisgrifio’n benodol yn y cynllun hwn, mewn modd sy’n gyson â’r egwyddorion cyffredinol a ymgorfforir yn y cynllun.
Deddf Rhyddid Gwybodaeth a’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol
Pan fyddwn yn rhyddhau gwybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, fe fyddwn yn ei gyfieithu i’r iaith a ffafrir gan yr ymgeisydd, ble bynnag fo’n rhesymol ymarferol. Os yw’r Rheolydd yn penderfynu nad yw’n gallu darparu’r wybodaeth yn y fformat hwnnw, bydd yn ysgrifennu at yr ymgeisydd ac esbonio pam.
Monitro
Bydd yn monitro’r cynnydd a wnawn o ran gwireddu’r cynllun hwn yn ôl y targedau sydd wedi’u nodi yn y cynllun gweithredu sydd ynghlwm wrtho. Bydd yn adrodd yn ôl i’n uwch reolwyr ar y cynnydd hwnnw.
Mae ein gweithdrefnau monitro a chofnodi presennol yn cynnwys cyfeiriad at gynnydd o ran gweithredu’r cynllun hwn, fel y bo’n briodol.
Rydym yn anfon adroddiadau monitro i Gomisiynydd y Gymraeg yn flynyddol, gan amlinellu’r cynnydd o ran cyflwyno’r cynllun hwn.
Ein nod yw sicrhau ein bod yn parhau i weithredu yn unol â nodau ac amcanion y cynllun hwn.
Adolygu a diwygio’r cynllun hwn
O bryd i’w gilydd, efallai y bydd angen i ni adolygu’r cynllun hwn, neu gynnig diwygiadau i’r cynllun hwn, oherwydd newidiadau i’n swyddogaethau, neu i amgylchiadau yr ydym yn ymgymryd â’r swyddogaethau hynny, neu am unrhyw reswm arall.
Ni wneir unrhyw newidiadau i’r cynllun hwn heb gymeradwyaeth Comisiynydd y Gymraeg.
Cwynion ac awgrymiadau ar gyfer gwella
Dylid cyfeirio cwynion sy'n gysylltiedig â'r cynllun hwn, neu awgrymiadau ar gyfer gwella, at yr uwch aelod o staff sydd â chyfrifoldeb am y cynllun, gan ddefnyddio'r manylion cyswllt hyn.
Byddwn yn cydweithredu gyda'r Comisiynydd er mwyn datrys cwynion - ac yn ystod unrhyw ymchwiliadau a gynhelir o dan Adran 17 Deddf yr Iaith Gymraeg.
Adroddiad monitro blynyddol
Cyfnod adrodd 3 Medi 2023 i 2 Medi 2024.
Angen gweithredu |
Dyddiad targed | Person sy'n gyfrifol | Cynnydd hyd yma |
---|---|---|---|
Camau gweithredu a gariwyd ymlaen o'r cynllun blaenorol 1. Polisïau, deddfwriaeth a mentrau |
|||
a) Ystyried, o bryd i'w gilydd, y berthynas rhwng y sefydliad a'r iaith, er mwyn asesu gallu'r sefydliad i hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg yn gyffredinol. |
Parhaus |
Cyfarwyddwr cyfathrebu |
Ystyrir yn flynyddol fel rhan o'r broses gynllunio weithredol. Wedi'i gwblhau ar gyfer 2023/24. |
2. Cyhoeddiadau, ffurflenni a chylchlythyrau | |||
a) Adolygu bod holl adrannau perthnasol y wefan ar gael yn Gymraeg. | Parhaus | Rheolwr cynnwys gwe |
Cytuno ar adolygiad rheolaidd i fod yn flynyddol o leiaf. Wedi'i gwblhau ar gyfer 2023/24. |
3. Cyfathrebu ffôn | |||
a) Nifer o geisiadau a adroddwyd am sgyrsiau Cymraeg drwy'r Llinell Iaith. | Parhaus | Cyfarwyddwr cyfathrebu AE |
Cawsom 11 cais am sgyrsiau Cymraeg yn ystod y cyfnod hwn. Wedi'i gwblhau ar gyfer 2023/24. |
4. Cwynion |
|||
a) Nifer o gŵynion wedi'u derbyn ynghylch diffyg darpariaeth gwasanaeth iaith Gymraeg yn y flwyddyn flaenorol a chamau a gymerwyd i ddatrys cwynion. | Parhaus | Cwynion prif gynghorydd a datgelu gwybodaeth |
Cawsom 1 gŵyn yn ystod y cyfnod hwn. Wedi'i gwblhau ar gyfer 2023/24. |
5. Cyhoeddi a rhaeadr fewnol | |||
a) Diweddaru adran adroddiad monitro blynyddol cynllun y Gymraeg ar ein gwefan. |
O fewn pythefnos o gymeradwyaeth |
Rheolwr cynnwys gwe |
Wedi'i gwblhau ar gyfer 2023/24. |
6. Llwybr i weithredu cynulleidfa'r cyflogwr | |||
a) Cyfathrebu'r cynllun i dimau perthnasol. | Parhaus | Rheolwr adolygu cynlluniau | Wedi'i gwblhau ar gyfer 2023/24. |
b) Nifer yr unigolion neu'r sefydliadau sydd wedi gofyn am ohebiaeth yn Gymraeg. |
Parhaus | Perchennog y cynllun |
Dydyn ni ddim wedi derbyn unrhyw geisiadau am gyfieithiadau Cymraeg yn ystod y cyfnod hwn. Wedi'i gwblhau ar gyfer 2023/24. |