Asesu eich staff
Mae'n rhaid ichi gyfrifo faint mae pob aelod o staff yn ei ennill a faint oed ydyn nhw ar eich dyddiad dechrau dyletswyddau. Bydd hyn yn rhoi gwybod ichi beth sydd angen ichi ei wneud ac fe gaiff ei alw yn 'asesu eich staff'. Fe ddylech chi ddefnyddio'r wybodaeth hon i gwblhau eich datganiad cydymffurfio.
Fe fydd eich gweithwyr yn un o’r ddau ddosbarth isod:
Cyfanswm Cyflog | Oedran 16 - 21 | Oedran 22 - Oedran Pensiwn y Wlad* | Oedran Pensiwn y Wlad* |
---|---|---|---|
Dros £833 y mis (Dros £192 y wythnos) |
Math 2 | Math 1 | Math 2 |
£833 y mis neu lai (£192 yr wythnos neu lai) |
Math 2 | Math 2 | Math 2 |
*Oedran Pensiwn y Wlad - Os nad ydych yn siwr beth ydy hwn, defnyddiwch y Gyfrifiannell Pensiwn y Wlad
Does gen i ddim staff sydd angen eu cofrestru ar gynllun pensiwn ar hyn o bryd
Mae'n rhaid ichi barhau i fonitro oedran ac enillion eich staff pob tro y byddwch chi'n eu talu rhag ofn fod angen ichi eu cofrestru ar gynllun pensiwn yn y dyfodol.
Os nad oes gennych chi staff y mae angen ichi eu cofrestru ar gynllun pensiwn o'ch dyddiad dechrau dyletswyddau, ewch ymlaen i'r cam nesaf oherwydd mi fydd gennych chi ddyletswyddau cyfreithiol eraill i'w cyflawni.